Mae enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llansawel yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael ei gyhoeddi.

Bu farw Andrew Taylor, 29, nos Wener (Mehefin 14) ar Ffordd Castell-nedd, pan darodd ei feic yn erbyn fan.

Mae ei deulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

“Roedd Andrew yn fab, brawd ac ewythr cariadus ac yn bartner annwyl i Francesca ac yn dad i dri o blant ifanc prydferth,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Roedd e bob amser yn barod i helpu unrhyw un ar unwaith, ac roedd e’n unigryw.

“Roedd ei gariad at gerbydau, beiciau modur a brechdanau bacwn a wyau yn amlwg i bawb oedd yn ei adnabod.

“Roedd Andrew yn cael ei garu gan ei deulu ac fe fydd colled fawr ar ei ôl ymhlith pawb roedd yn ei adnabod.”