Mae Cyngor Caerdydd wedi herio’r honiad eu bod yn bwriadu cael gwared ar ‘goeden goffa’ yn ardal y Rhath.

Mae’r cyngor wedi cyflwyno cais cynllunio i godi naw cartref cyngor ar ddarn o dir gwyrdd yn Crofts Street, ac fel rhan o’r cynllun yma bydd yn rhaid iddyn nhw gael gwared ar goeden geirios.

Dyw ambell i breswylydd lleol ddim yn gefnogol o’r datblygiad, a bellach mae ymgyrch ar droed i achub y goeden rhag cael ei llifo i lawr.

Yn siarad â golwg360 mae arweinydd yr ymgyrch, Michelle Alexis, wedi honni mai coeden i goffau’r Ail Ryfel Byd yw’r goeden; ond mae’r Cyngor bellach wedi wfftio hynny.

“Mae swyddogion wedi ymchwilio i hen ddogfennau cynllunio hanesyddol a chanfod nad oes yna unrhyw gyfeiriad at goeden goffa ar y safle,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Mae mapiau hanesyddol … yn dangos nad oedd unrhyw goed ar y safle ar yr adeg y bomiwyd y safle yn ystod y Rhyfel ac nad oedd coed yno yn y 1950au.”

Roedd yna labordy ar y safle cyn iddo droi’n lain o borfa, ac mae’r Cyngor yn tybio bod y goeden wedi’i phlannu “fel rhan o waith tirweddu” o amgylch yr adeilad hwnnw.

Rhagor o goed

Mae Cyngor yn ategu bod angen symud y goeden ceirios i “alluogi datblygu’r cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn y ddinas.”

Ac fel rhan o’r datblygiad, mae disgwyl i goed newydd gael eu plannu “gan gynnwys coeden stryd newydd a choed ceirios newydd o flaen gerddi pob un o’r cartrefi newydd.”