Mae Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog wedi pleidleisio’n unfrydol tros gefnogi annibyniaeth i Gymru.

Gan ddilyn esiampl cynghorau trefi Machynlleth a Phorthmadog, dyma’r trydydd cyngor tref i wneud datganiad o’r fath yng Nghymru.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y cynghorydd Erwyn Jones, ac mae’n dweud bod y datganiad yn gyfle i’r cyngor ddangos “arweiniad i’r ardal”.

“Yn y cyfnod sydd ohoni, gyda Brexit yn mynd ragddo, mae Prydeindod yn cael ei chwyddo,” meddai wrth golwg360.

“Felly mae’n bwysig ein bod ni’n dangos mai Cymru ydym ni, ac ein bod ni’n codi llais dros Gymru – lle bod ni’n cael ein boddi yn y môr afiach yma o Brydeindod…

“Bach iawn yw ein dylanwad o fewn Cymru, wrth gwrs. Ond rydym yn gobeithio annog pobol eraill i godi llais. A bydd yn rhaid i’r llywodraethau uwch gymryd sylw yn y pendraw.”

Coeden fach yn tyfu’n fawr

Un o gynghorwyr ward Bowydd a Rhiw, Annwen Daniels, wnaeth eilio’r cynnig; ac mae hi’n awyddus i weld y cyngor sir yn dilyn eu hesiampl.

“Dw i’n gobeithio bydd pob cyngor tref a phlwy yng Nghymru yn ein dilyn,” meddai wrth golwg360.

“Buasai’n neis gweld Cyngor Sir Gwynedd yn gwneud yn union yr un fath. Rŵan ydy’r adeg i fynd ymlaen. Gyda Brexit â phob dim yn mynd rhagddo, rŵan ydy’r amser i fynd yn annibynnol…

“Os gewch chi sawl peth bach yn dod at ei gilydd, mae’n mynd yn entity mawr yn y pen draw. Gallwn roi mwy o bwysau ar Gaerdydd [trwy wneud hyn]. Mae coeden fach yn tyfu’n un fawr!”