Mae bargyfreithiwr amlwg wedi rhybuddio Cyngor Gwynedd y gallai wynebu her gyfreithiol os yw’n bwrw ymlaen gyda newid polisi a fyddai’n atal cynnal asesiadau effaith iaith ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio.

Daw wrth i bwyllgor o gynghorwyr o Wynedd ac Ynys Môn ystyried canllawiau cynllunio atodol, a fyddai, ymysg materion eraill, yn golygu mai canran fach iawn o geisiadau cynllunio fydd yn derbyn asesiad effaith iaith llawn.

Roedd Cyngor Gwynedd yn arfer mynnu asesiad effaith iaith llawn ar gyfer pob cais i adeiladu pump neu fwy o dai.

Rhybudd y bargyfreithiwr

Mae disgwyl i gynghorwyr benderfynu ar un o’r dogfennau sy’n ffurfio rhan o gyfres o ganllawiau cynllunio atodol heddiw (dydd Gwener, Mehefin 14).

“Ymddengys y cytunwyd ar eiriad terfynol… y Cynllun Datblygu yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer [canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru],” meddai’r bargyfreithiwr Gwion Lewis mewn cyngor cyfreithiol at gynghorwyr Gwynedd ac Ynys Môn cyn y cyfarfod.

“Credaf fod geiriad y polisi yn ddiffygiol gan nad ydyw, yn groes [i’r Ddeddf a chanllawiau cynllunio mwy diweddar y Llywodraeth] yn datgan yn glir y ‘[g]all ystyriaethau yn ymwneud â’r defnydd o’r Gymraeg gael sylw gan benderfynwyr cyn belled â’u bod yn berthnasol i geisiadau am ganiatâd cynllunio’.

“Yn hytrach, yr awgrym cryf yn y polisi yw y dylid ond rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg os yw’r meini prawf ar gyfer darparu ‘Datganiad Iaith Gymraeg’ neu ‘Asesiad Effaith Iaith Gymraeg’ yn cael eu cwrdd.

“… ni fyddai ‘atal’ neu ‘wahardd’ asesiad effaith iaith ar sail y [polisïau a chanllawiau] yn unig yn synhwyrol yn gyfreithiol ac fe allai sail ar gyfer adolygiad barnwrol godi oni ddilynir [fy nghyngor].”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyngor Gwion Lewis ac yn galw am ddeddfwriaeth fydd yn sefydlu cyfundrefn newydd er mwyn sicrhau bod asesiadau effaith iaith yn cael eu cynnal ar ddatblygiadau.