Bydd yr Archif Ddarlledu Genedlaethol yn mynd yn ei blaen ar ôl i’r Llyfrgell Genedlaethol dderbyn bron i £5m mewn grant.

Bydd yr arian gan y Loteri Genedlaethol yn helpu i greu’r archif – y gyntaf o’i bath yng ngwledydd Prydain – a fydd yn cynnwys tua 240,000 awr o ddeunydd radio a theledu o Gymru ac sy’n dyddio’n ôl dros gyfnod o ganrif.

Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd gan y BBC, a bydd yn cael ei ychwanegu at archif bresennol ITV Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd y deunydd yn cael ei gadw mewn storfa bwrpasol 1,000 metr sgwâr yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a bydd modd i’r cyhoedd gael mynediad tuag ato mewn pedair canolfan ledled Cymru.

Bydd modd gwylio rhan o’r deunydd, sef 1,500 o glipiau archif BBC Wales, ar y We yn ogystal.

“Prosiect arloesol”

“Rydyn ni wrth ein bodd bod y Loteri Genedlaethol wedi rhoi cyllid ar gyfer y prosiect arloesol hwn fydd yn sicrhau y bydd archif BBC Wales ar gael i’r cyhoedd,” meddai Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Pedr ap Llwyd.

“A ninnau’n gartref i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, a bod deunydd gan ITV Wales eisoes yn y Llyfrgell, rydyn ni’n bwriadu diogelu’r ffynhonnell hanfodol hon o dreftadaeth ein cenedl ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a’i defnyddio i helpu sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol gyntaf gwledydd Prydain.”