Mae Athro prifysgol ac aelod Cymru ar fwrdd y BBC wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn diolch am yr holl ddymuniadau da ers iddi gael ei gwneud yn Fonesig gan y Frenhines y penwythnos diwethaf.

Roedd Elan Closs Stephens yn un o’r rheiny ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines ddydd Sadwrn (Mehefin 8), wrth iddi gael ei dyrchafu o’r CBE i fod yn fonesig.

Ac mae nifer o Gymry Cymraeg amlwg wedi bod ar Facebook yn ei llongyfarch – yn Gymraeg ac yn Saesneg – ar yr anrhydedd y mae wedi’i derbyn am ei chyfraniad i Lywodraeth Cymru a’r byd darlledu.

“Diolch o galon i chi am y llongyfarchion dros y dyddiau dwetha ar y DBE,” meddai Elan Closs Stephens wrth ei ffrindiau ar Facebook.

“Mae pawb – gan gynnwys rhai sydd ddim yn ftwd am anrhydeddau – wedi bod yn hynod hynod garedig.

“Pleser eich nabod i gyd a diolch unwaith eto.”

Polisi diwylliannol a darlledu yw meysydd arbenigol yr academydd a fagwyd yn Nyffryn Nantlle ac a fu’n fyfyrwraig yng Ngholeg Somerville, Rhydychen.

Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Llywodraeth Cymru.