Dylai Llafur Cymru dorri’n rhydd o’r blaid Brydeinig er mwyn ehangu ei apêl i Gymry Cymraeg, yn ôl eu hunig gynghorydd ar Gyngor Gwynedd.

Mae Sion Jones, sy’n cynrychioli ward Bethel, yn teimlo bod ei blaid yn cael ei ystyried yn “blaid Brydeinig” a bod angen iddyn nhw wneud eu hunain yn fwy “deniadol”.

Mae eisiau herio’r syniad mai Plaid Cymru yw plaid y Cymry Cymraeg, ac mae’n credu bod yn rhaid torri’n rhydd o’r blaid Brydeinig er mwyn gwneud hynny.

“Dw i’n teimlo ein bod ni’n rhy agos i’r blaid Brydeinig,” meddai wrth golwg360. “Ac mae hynny’n gwneud i bobol deimlo nad ydyn nhw’n gallu ein cefnogi ni os ydyn nhw’n [Gymry] Cymraeg.

“Pe bai’r Blaid Lafur Gymreig yn mynd ar wahân i’r blaid Brydeinig, byddai hynny’n gyfle da i ni ddweud … ein bod ni ddim jest yn blaid ar gyfer [y di-Gymraeg], rydym yn blaid hefyd ar gyfer Cymry Cymraeg.”

Annibyniaeth

Mae hefyd yn teimlo bod awydd am annibyniaeth ar dwf ymhlith y Cymry, ac mae’n credu y gallai Llafur Cymru “ymateb” i hynny trwy dorri’i chyswllt â Llundain.

“Mae’n amser i ni fod yn blaid sydd yn [cydnabod] bod yna rhyw fath o ddatblygiad yn digwydd o ran y diddordeb mewn annibyniaeth,” meddai.

“Dydyn ni ddim eisiau mynd yn rhy bell, ond gadewch i ni y Blaid Lafur ymateb i hyn rŵan er mwyn sicrhau ein bod yn medru denu pleidleisiau pobol sydd â diddordeb yn hynny.”

Dyw Sion Jones ddim eisiau i Gymru fod yn wlad annibynnol, a dydy’r cynghorydd ddim yn annog y blaid i newid eu safiad ar y mater.