Mae cais i adeiladu 95 o dai newydd ar gyrion tref Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei wrthod gan Gyngor Sir Ceredigion.

Roedd cwmni Geraint John Plannig Ltd, ar ran tirfeddianwyr lleol, wedi cyflwyno cynlluniau i’r cyngor ar gyfer adeiladu’r tai ar gae rhwng Maes y Deri, Pen Bryn a Bryn Steffan.

Bu pryder mawr yn lleol ynghylch y datblygiad, gyda thrigolion yn gofidio am faint y datblygiad ac am allu’r dref i ymdopi â chymaint rhagor o gartrefi.

Erbyn hyn, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu gwrthod y cais ar sail nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith bod y datblygiad yn mynd yn groes i’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’r cyngor hefyd yn nodi nad oedd cyflwynwyr y cais wedi gallu profi bod ganddyn nhw berchnogaeth na rheolaeth ar y darn o dir oedd ei angen ar gyfer creu mynediad oddi ar Bryn Steffan.

Byddai mynediad o Faes y Deri yn unig wedyn yn “annigonol” ar gyfer maint y datblygiad, medden nhw ymhellach.