Mae postmon o Lanbedr Pont Steffan wedi llwyddo i godi dros £7,000 at achos da ar ôl cerdded llwybr arfordir Cymru.

Ar Fai 10, fe ddechreuodd Barry Davies ar sialens fawr a oedd yn cynnwys cerdded 870 o filltiroedd ar hyd arfordir Cymru, a hynny o gyffiniau Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.

Y nod oedd cerdded 30 milltir y dydd, ac fe lwyddodd i gwblhau’r llwybr cyfan o fewn 33 diwrnod, gan gyrraedd Cas-gwent ar Fehefin 8, sef diwrnod ei ben-blwydd yn 30 oed.

Roedd yn casglu arian ar gyfer elusen Cancer Research UK, achos sy’n agos iawn at ei galon wedi iddo golli ei dad i’r afiechyd ym mis Medi 2015.

“Anhygoel”

Roedd Barry Davies wedi gobeithio codi swm o £1,500 yn ystod y daith, ond mae bellach wedi chwalu’r targed hwnnw.

“Mae’n anhygoel beth mae [Barry] wedi ei wneud,” meddai Maer Llanbedr Pont Steffan, Rob Phillips, wrth longyfarch y postmon lleol.

“Mae cerdded llwybr arfordir Cymru ynddo’i hunan yn dipyn o gamp, ac mae gwneud hynny mewn cyn leied o amser yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono fe…

“Mae’n wych ei fod wedi codi shwd gymaint… mae’r ffigwr o £7,000 yn ddigon parchus ar gyfer ymdrech o’r fath.

“Mae’n dangos ei fod wedi rhoi cymaint i mewn i gynllunio a hyfforddi, a’i fod e mor benderfynol o’i wneud e.”