Mae’r ardal rhwng Llandudno a’r ffin â Lloegr dan rybudd tywydd garw heddiw (dydd Mercher, Mehefin 12) wrth i law trwm barhau i ddisgyn dros wledydd Prydain i gyd.

Ond mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd penodol ar gyfer gogledd Lloegr, y Midlands, yr Alban a gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae’n rhybuddio y gallai cartrefi a busnesau gael eu heffeithio gan lifogydd, ac y gallai’r tywydd fod yn gyfrifol am amodau gyrru anodd a pheryglus ar bob math o ffyrdd.

Yng Nghymru, mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobol i beidio â theithio oni bai fod hynny’n angenrheidiol.

Mae’r gwasanaeth trên wedi’i effeithio hefyd, yn benodol y rheilffyrdd rhwng Aberystwyth, Caer, Criw a’r Amwythig. Mae trenau Virgin rhwng Cyffordd Llandudno, Criw a Chaer hefyd wedi’u heffeithio.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn trydar am effaith y glaw trwm ar y ffyrdd.