Mae ysgol newydd yn Nyffryn Teifi a agorodd ei drysau am y tro cyntaf tua blwyddyn a hanner yn ôl, wedi derbyn canmoliaeth uchel gan arolygwyr

Mae adroddiad gan y corff arolygu Estyn yn nodi bod safon y dysgu ac arweinyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Cledlyn ym mhentref Drefach, ger Llanybydder, yn ‘rhagorol’.

Fe agorwyd yr ysgol gynradd ym mis Medi 2017 ar ôl uno ysgolion cynradd Cwrtnewydd, Llanwnnen a Llanwenog.

Mae’r ysgol yn cael ei rheoli gan Gyngor Sir Ceredigion ac fe gafodd ei hadeiladu yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru – Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Balchder

“Rydym yn falch iawn o gyflawniad ein tîm cyfan mewn cyfnod byr ac rydym yn hynod falch bod ymdrechion y disgyblion wedi cael eu cydnabod,” meddai pennaeth yr ysgol, Carol Davies.

“Wrth inni uno roedden ni’n gweithio’n galed i wrando ar ein disgyblion a’u hanghenion ac o ganlyniad daeth y ‘perthyn’ i sefydliad newydd yn antur gyffrous newydd.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm cyfan am eu hymroddiad a’u hymrwymiad wrth sicrhau bod Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi cyflawni’r canlyniadau rhagorol hyn.”