‘Welsh’ a ‘Wales’ yw’r ddau air sy’n ymddangos amlaf yn straeon plant o Gymru sydd wedi rhoi cynnig ar gystadleuaeth ysgrifennu stori 500 gair BBC Radio 2 eleni.

Rhaglen frecwast Zoe Ball sy’n rhedeg y gystadleuaeth mewn partneriaeth â Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Daeth 112,986 o gynigion i law drwy wledydd Prydain, ac mae’r geiriau mwyaf cyffredin ynddyn nhw wedi cael eu dadansoddi.

Y geiriau eraill sy’n boblogaidd ymhlith awduron ieuengaf Cymru yw ‘daffodil’, ‘nan’, ‘shoemaker’, ‘sailor’, ‘contract’, ‘journalist’, ‘cheerio’ a ‘chisel’.B

rexit yw’r gair ledled gwledydd Prydain

Tra bod plant Cymru’n cael eu hysbrydoli gan eu cenedligrwydd, gwleidyddiaeth sy’n mynd â sylw plant ledled gwledydd Prydain ar y cyfan.

‘Brexit’ yw’r gair sy’n ymddangos fwyaf yn y straeon, ac mae hynt a helynt Theresa May hefyd yn cael sylw.

Mae figaniaeth, newid hinsawdd a phlastig hefyd ymhlith y pynciau mwyaf cyffredin.

Ac wrth drafod enwogion, y pêl-droediwr Cristiano Ronaldo a Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, sy’n eu hysbrydoli.