Mae Heddlu’r Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn tŷ yn Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Caer yn y dref am oddeutu 6.30 fore ddoe (dydd Sul, Mehefin 10) ar ôl i’r Gwasanaeth Ambiwlans ymateb i alwad frys.

Does dim esboniad ar gyfer ei marwolaeth hyd yn hyn, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal ar ôl i’r crwner gael gwybod.