Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas â marwolaeth dyn 18 oed yng Nghaerdydd.
Cafodd Fahad Mohamed Nur ei drywanu 21 o weithiau ger gorsaf drenau Cathays yn y brifddinas ar Fehefin 2.
Mae dau ddyn o Gaerdydd – Abdulghalil Aldobhani, 22, a Shafique Shaddad, 24 – wedi’u cyhuddo o lofruddio.
Mae Aseel Arar, 34, o ardal Selly Oak yn Birmingham, wedi’i gyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Cafodd y tri eu cyhuddo yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Byddan nhw’n dychwelyd er mwyn cyflwyno ple ar Orffennaf 8.