Mae cynghorydd sir a chomisiynydd yr heddlu yng ngogledd Cymru yn dweud y dylai’r elw sy’n cael ei wneud o ddirwyon goryrru gael eu cadw yng Nghymru er mwyn gwella diogelwch ffyrdd y wlad.

Er bod y cynllun GanBwyll yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru, caiff elw’r dirwyon ei gadw gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r Cynghorydd Mabon ap Gwynedd, sy’n cynrychioli ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych, ynghyd â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn galw am newid i’r drefn.

“Mae gennym nifer o broblemau diogelwch ar ein ffyrdd yng Nghymru, ac mae’r heddlu’n cael eu tanariannu,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae bywydau pobol yn y fantol oherwydd polisïau llymder Llywodraeth San Steffan a’i methiant i ariannu’r gwasanaeth heddlu yn iawn.

“Dylid sicrhau fod yr arian a delir yng Nghymru yn dod yn ôl i Gymru.”

Mae Arfon Jones yn cefnogi galwad Mabon ap Gwynfor, gan ddweud bod angen defnyddio’r arian i wneud ffyrdd yn “fwy diogel”.

“Dylai gael ei neilltuo ar gyfer Partneriaeth GanBwyll, sydd yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Thraffig Cymru, yr Awdurdodau Lleol a’r pedwar llu rhanbarthol, felly byddai’r arian a ddaw o’r dirwyon yn cael ei wario yng Nghymru trwy Lywodraeth Cymru,” meddai.