Mae cynnig wedi cael ei gyflwyno gan undeb GMB yn galw ar weithwyr Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr i uno i wrthwynebu cau’r ffatri.

Mae hyd at 1,700 o swyddi yn y fantol yn sgil y penderfyniad, sy’n cael ei ystyried yn argyfwng i’r dref gyfan a’r diwydiant ceir yng Nghymru.

Mae’r cynnig wedi’i gyflwyno yn ystod cynhadledd flynyddol yr undeb yn Brighton heddiw (dydd Sul, Mehefin 9), yn galw ar y cwmni i ail-feddwl ac i weithwyr y cwmni mewn rhannau eraill o wledydd Prydain i ddangos eu cefnogaeth.

Daw’r cynnig wrth i’r gweithwyr ddychwelyd i’r ffatri fory (dydd Llun, Mehefin 10) am y tro cyntaf ers y cyhoeddiad.

Fe fydd gweinidogion llywodraethau Cymru a Phrydain yn cyfarfod fory gyda’r bwriad o sefydlu gweithgor o awdurdodau lleol ac undebau llafur er mwyn chwilio am ffyrdd o greu swyddi yn lle’r rhai sy’n cael eu colli.

‘Ergyd ddinistriol’

Mae’r penderfyniad i gau’r ffatri yn “ergyd ddinistriol” i Ben-y-bont ar Ogwr, meddai Jennifer Smith, aelod o’r GMB sy’n byw yn y dref.

“Yn fwy arwyddocaol, mae’n ergyd gatastroffig i’n haelodau, eu teuluoedd a’r gymuned.

“Mae gweithlu’r ffatri wedi gwneud pob cyfraniad posib i gynyddu cynhyrchiant, gan wneud arbedion effeithlonrwydd a sicrhau ei bod yn gystadleuol o ran costau, dim ond i’r cwmni fradychu eu hymrwymiad a’u hufudd-dod.

“Dyma enghraifft arall hefyd o’r diffyg cefnogaeth gan Lywodraeth Ganolog i’r sector gweithgynhyrchu yn y wlad hon yn gyffredinol ac yn enwedig yng Nghymru.

“Mae absenoldeb unrhyw strategaeth glir wedi achosi ailadrodd o’r hollti a welsom yn y sector yn y 1980au, gyda dinistrio bwriadol y diwydiannau cynhyrchu glo a dur.”