Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn ardal Pencader.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng lori a char Vauxhall Astra lliw arian ar ffordd A485 yn Windy Corner am oddeutu 12.15yp (dydd Sul, Mehefin 9).

Bu’n rhaid tynnu’r ddynes o’i char ar ôl iddi fynd yn sownd.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty mewn hofrennydd, ac mae hi mewn cyflwr difrifol.

Mae’r ffordd ynghau am y tro, ac mae’r heddlu’n cynghori teithwyr i gadw draw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.