Boris Johnson yw “unig obaith y Ceidwadwyr” o sicrhau sefydlogrwydd, yn ôl Andrew RT Davies, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw ei sylwadau mewn erthygl yn y Sunday Times, lle mae’n egluro pam ei fod yn credu mai cyn-Ysgrifennydd Tramor San Steffan yw’r person gorau i olynu Theresa May yn arweinydd y blaid ac yn brif weinidog.

Daeth cyfnod Theresa May yn arweinydd ei phlaid i ben yn swyddogol ddydd Gwener (Mehefin 7) ond er iddi gamu o’r neilltu, bydd hi’n aros yn brif weinidog am y tro.

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, hefyd yn cefnogi Boris Johnson yn y ras.

Nodweddion arweinydd

Yn ei erthygl, dywed Andrew RT Davies fod arweinwyr y Ceidwadwyr yn y gorffennol yn meddu ar “rym, dawn a chraffter tactegol”, sy’n golygu eu bod nhw wedi gallu “llywodraeth ar ran pawb”.

Ond er ei fod yn dweud bod ei “edmygedd” o Theresa May yn parhau, mae’n dadlau bod y Ceidwadwyr wedi colli eu ffordd yn ddiweddar yn sgil helynt Brexit.

Wrth ddefnyddio terminoleg rygbi, dywed fod y Ceidwadwyr yn “dîm sydd â’n cefnau yn erbyn y wal”, yn “chwilio am arweinydd i’n tywys i ddiogelwch”.

Mae’n cymharu Boris Johnson â chwaraewr “yn y rheng flaen… lle mae gornestau yn aml yn cael eu hennill”, ac mae’n dweud ei fod yn meddu ar “angerdd, dawn ac argyhoeddiad”.

Cydnabod yr amheuon am Boris Johnson

Serch hynny, mae’n cydnabod fod gan rai amheuon am allu Boris Johnson i arwain Prydain yn ystod cyfnod cythryblus.

Ond mae’n dweud fod ganddo fe “gymeriad, carisma a gallu i dorri tir newydd y tu hwnt i’n llinellau traddodiadol”.

Mae’n dweud ei fod yn “ymgyrchydd rhagorol” ac yn “deall datganoli” ac yntau’n gyn-Faer Llundain.

Mae’n gorffen drwy ddweud fod “y bêl yn rhydd yng nghefn y sgrym, ac mae’n bryd i Boris ei chasglu a’n harwain ni dros y llinell”.