Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Athro Noel Lloyd, sydd wedi marw’n 72 oed.

Yn enedigol o Lanelli, roedd yn Is-Ganghellor rhwng 2004 a 2011, pan wnaeth e ymddeol o’i swydd.

Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt, cyn mynd yn ei flaen i gwblhau doethuriaeth ac i fod yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan.

Yn ystod ei yrfa ddisglair, fe fu’n gofrestrydd, ysgrifennydd, Deon y Gwyddorau a phennaeth Adran Fathemateg y brifysgol.

Mae’n gadael gwraig, Dilys, dau o blant a dau o wyrion.

“Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion am farwolaeth ein cyn Is-Ganghellor, yr Athro Noel Lloyd,” meddai’r brifysgol mewn datganiad.

“Roedd yn ŵr hynod egwyddorol, deallus, trugarog a diflino ei gyfraniad, ac mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl.

“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig Dilys a’i deulu.”

Teyrngedau

Mae’r Arglwydd Nick Bourne ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo.

“Trist iawn o glywed am farwolaeth Dr. Noel Lloyd, dyn â doniau academaidd mawr,” meddai ar ei dudalen Twitter.

“Roedd yn Is-Ganghellor disglair ar Brifysgol Aberystwyth.

“Rwy’n falch ac yn freintiedig o fod wedi ei adnabod – dymunol, cynnes, egwyddorol, gonestrwydd llwyr.”

Dywed mudiad Cytûn eu bod yn “drist” ar ôl clywed am ei farwolaeth.

“Mae Cytûn yn cydymdeimlo’n ddwys â’i deulu a’i gyfeillion. Fe wnaeth gyfraniad aruthrol i’r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru.”

“Chwith cofnodi fod yr Athro Noel Lloyd wedi marw fore heddiw,” meddai Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar eu tudalen Twitter neithiwr.

“Gweddïwn dros ei deulu yn eu galar,  diolchwn am fywyd a chyfraniad sylweddol y Cristion bonheddig, yr ysgolhaig a’r gwladweinydd annwyl yma.”