Mae dyn 75 oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Abertawe ddoe.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys ond bu farw’n ddiweddarach. Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos y tân yn ardal Parkmill, ym Mhenrhyn Gŵyr tua 5.45pm ddydd Sadwrn, 8 Hydref.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhywun oedd yn yr ardal ar y pryd a allai fod wedi gweld y digwyddiad. I gysylltu â nhw ffoniwch 01792 456999.