Mae saith o aelodau Plaid Cymru wedi rhoi eu henwau ymlaen i gael bod yn ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn Nwyfor Meirionnydd adeg etholiad 2021.

Ac mae golwg360 ar ddeall y bydd pwyllgor yr etholaeth yn cyfarfod heno i lunio rhestr fer o ymgeiswyr, a fydd yn cael mynd yn eu blaenau i annerch dau gyfarfod hystings.

Bydd yr ymgeisydd a ddewisir yn gorfod herio’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y cyn-Arweinydd Plaid Cymru sy’n Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd ers 20 mlynedd.

Fe adawodd y Blaid yn 2016 ac mae bellach yn Weinidog yn Llywodraeth Lafur Cymru.

O’r saith sydd yn y ras, mae golwg360 yn gwybod enwau pedwar ohonyn nhw:

Nia Jeffreys – cynghorydd sir o Borthmadog sydd wedi gweithio i Dafydd Wigley ac Elfyn Llwyd;

Simon Brooks – cynghorydd tref Porthmadog sy’n academydd, awdur ac ymgyrchydd iaith;

Mabon ap Gwynfor – cynghorydd sy’n cynrychioli Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych;

Elin Roberts –  myfyrwraig sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog ac yn astudio ym Mharis.

Bydd cyfarfod y pwyllgor etholaeth yn cael ei gynnal heno, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Gwerfyl Jones “mi fyddwn ni’n ystyried yr enwau sydd wedi dod i law”.

Nid oedd yn fodlon cadarnhau mai llunio rhestr fer yw’r nod, ond mae’n nodi bod “yna ddarpariaeth yng nghyfansoddiad y Blaid: os oes yna mwy na pum ymgeisydd gall pwyllgor etholaeth lunio rhestr fer.”

Yr amserlen

Bydd Plaid Cymru wedi dewis ymgeisydd i herio Dafydd Elis-Thomas erbyn Gorffennaf 6.

Bydd cyfarfodydd hystings ar Fehefin 29 yn Nolgellau a’r ail ar Orffennaf 6 ym Mhwllheli, a bydd aelodau’r etholaeth yn cael bwrw pleidlais yn y cynadleddau hefyd.

Yn dilyn yr ail gynhadledd bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri, a bydd yr etholaeth yn gwybod pwy yw’r ymgeisydd buddugol.

Daw hyn wedi i un o uwch-swyddogion y Blaid ddweud wrth golwg360 ym mis Mawrth y byddai’r ymgeisydd yn ei le erbyn diwedd mis Mehefin.

Yn siarad â’r wefan unwaith eto, mae Gwerfyl Jones, Ysgrifennydd Pwyllgor Rhanbarth Dwyfor Meirionydd yn dweud bod y broses wedi’i ohirio, ac yn arafach na’r disgwyl, am “wahanol resymau”.