Mae menter gymunedol Blaenau Ffestiniog yn codi llai ar ymwelwyr a chwsmeriaid di-Gymraeg sy’n rhoi cynnig ar ofyn am baned yn Gymraeg – yn y gobaith o annog mwy i wneud defnydd o’r iaith.

Mae Antur Stiniog yn rhedeg cwrs beicio a dau gaffi yn Blaenau Ffestiniog, ac ers dechrau mis Mehefein maen nhw wedi bod yn cynnig disgownt arbennig i gwsmeriaid sy’n ceisio siarad Cymraeg yn eu caffi yng nghanol y dref.

Yn ôl cyd-reolwr eu canolfan, Medwyn Roberts, mae unrhyw gwsmer di-Gymraeg sy’n rhoi cynnig ar archebu yn y Gymraeg yn eu caffis yn derbyn 10% o ddisgownt.

Yn sgil helynt diweddar tros Seisnigeiddio enw lleol, mae aelod y fenter yn egluro bod y disgownt yn ffordd o annog defnydd y Gymraeg ac o bwysleisio Cymreictod yr ardal.

“Rydan ni yn Gymraeg yn fa’ma,” meddai wrth golwg360. “Mae’n bwysig bod pobol sy’n dod oddi o ‘ma yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad. Mae Blaenau yn le Cymraeg.

“Does dim pwynt i chi fynd am wyliau i Gymru os ‘dach chi’n mynd o un le i’r llall, ac mae o’n swnio’n union yr un fath. Mae gan Gymru ei hiaith ei hun, a’i ffordd ei hun.

“Mae’n bwysig bod nhw’n dod yma ac yn gwybod hyn. Mae’n bwysig bod ni’n deall bod Cymru ddim yn rhan arall o Loegr.”

Denu pobol leol

Mae’r disgownt 10% ar gael i bawb sy’n byw yn lleol yng nghaffi arall Antur Stiniog, sydd ar gyrion y dref ger y ganolfan feicio.

Mae Medwyn Roberts yn datgelu bod yna gymhelliant arall, fwy craff, tu ôl i’r disgownt.

Gan fod eu hail gaffi mewn canolfan ar gyrion y dref, mae’n egluro bod y ddêl yn ffordd o ddenu pobol i fentro fyny’r allt atyn nhw.

“Rydyn ni’n gwneud o i bobol leol er mwyn eu denu nhw i fyny o’r dre,” meddai.

“Mae ein caffi ni fa’ma tua milltir tu allan i Flaenau Ffestiniog … Ac mae o’n anodd denu pobol Stiniog fyny fa’ma. Mae yna gymaint o gaffis lleol hefyd.”

Mae Antur Stiniog yn fenter cymunedol sy’n ceisio datblygu twristiaeth cynaladwy yn yr ardal.