Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymateb i’r newydd am gau ffatri Ford trwy ddweud mai sicrhau swyddi newydd o ansawdd i’r gweithlu yw un o flaenoriaethau ei lywodraeth yn San Steffan.

“Rydw i yn llwyr gydnabod fod hwn yn amser pryderus ac ansicr iawn i weithwyr Ford, a’u teuluoedd ym Mhen-ybont ar Ogwr a’r cymunedau cyfagos,” meddai Alun Cairns.

“Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos gyda Ford, yr undebau llafur a Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr gall y gweithlu gwerthfawr hwn symud i gyflogaeth fedrus newydd.

“Yn fy nhrafodaethau gyda rheolwyr Ford, maen nhw wedi cadarnhau y byddant yn cynnig cyfleoedd adleoli i staff tra bod cydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn barod i roi cyngor a chymorth i eraill yn yr ardal leol,” meddai wedyn.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ddiogelu a chreu swyddi yng Nghymru.

“Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y gweithlu medrus yng Nghymru yn parhau i fod yn arweinydd y byd yn y sector modurol drwy ein rhaglenni sefydledig yn anelu at gynnal ein cryfder a’n cystadleurwydd fel y mae natur y diwydiant yn newid yn gyflym.”