Mae Aelod Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr a chyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dweud bod y gweithwyr yn “haeddu cymaint gwell”.

Yn ôl Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth mae’r ffatri wedi bod yn rhan “annatod” o’r dref am ddegawdau, a bydd y Llywodraeth yn ceisio cynorthwyo’r gweithwyr.

“Dwi’n teimlo i’r byw dros yr holl bobl hynny sy’n cael eu cyflogi ar y safle ac yn y gadwyn gyflenwi, a’r cymunedau sy’n dibynnu gymaint arni,” meddai Carwyn Jones.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu tasglu a fydd yn cydweithio ag eraill yn ystod yr wythnosau nesaf hyn i helpu i ddod o hyd i ateb cynaliadwy a hirdymor ar gyfer y ffatri a’i gweithlu.”

Mae ffatri injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 40 blwydd oed, ac mae disgwyl i 1,700 o weithwyr golli eu swyddi wedi iddi gau.