Fe ddaeth cadarnhad y bydd ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau ym mis Medi 2020, gan roi 1,700 o bobol ar y clwt.

Mae’r cwmni wedi beio’r ffaith y bydd eu cytundeb gyda Jaguar Land Rover yn dod i ben, ar y gostyngiad yng ngwerthiant injans petrol yng nghanol diwydiant sy’n newid yn sydyn.

Does gan y penderfyniad ddim oll i’w wneud â Brexit, meddai’r cwmni wedyn.

Fe fydd y ffatri a agorwyd yn 1979 ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau ym mis Medi y flwyddyn nesaf, gan effeithio nifer fawr o bobol yn ogystal â’r 1,700 o weithwyr. Mae cymaint o fusnesau eraill yn yr ardal yn dibynnu ar Ford.