Mae pryder yn cynyddu y bydd cwmni Ford yn cyhoeddi bod eu ffatri beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau.

Mae cynrychiolwyr yr undebau yn y gwaith wedi cael eu galw i bencadlys y cwmni yn Brentwood yn ne-ddwyrain Lloegr.

Y disgwyl yw y bydd cyhoeddiad am hanner dydd ac, yn ôl arbenigwyr ar y diwydiant ceir, mae’r disgwyliadau wedi newid o golli swyddi i gau llwyr.

Fe fyddai hynny’n fater difrifol iawn i economi Cymru, meddai arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, tra bod yr AC lleol, Carwyn Jones, yn rhybuddio y byddai’n ergyd drom i’r dre’.

Mae 1700 o bobol yn gweithio yn y ffatri, a oedd newydd ennill cytundeb i wneud periannau Dragon i Ford ac mae miloedd yn rhagor yn ddibynnol arni.

Difrod

“Allwch chi ddeall y difrod a fyddai’n cael ei wneud i economi Cymru,” meddai Adam Price, wrth drafod y sïon ar newyddion y BBC. “Dyma ran mwya’ gwerthfawr y sector a’r sector yw calon diwydiant cynhyrchu.”

Roedd Carwyn Jones wedi ceisio cael ymateb gan y cwmni pan ddechreuodd y newyddion dorri fore Mercher, ond heb lwc.

Roedd rhaid aros am y cyhoeddiad cyn bod yn bendant y byddai’r gwaith yn cau, meddai, ond fe addawodd wneud bopeth posib i amddiffyn swyddi a, phe bai Llywodraeth Cymru’n gallu gwneud rhywbeth i achub y  ffatri, fe fyddai’r cyn-Brif Weinidog yn rhoi pwysau arnyn nhw i wneud hynny.

Fe gollwyd tua 1,000 o swyddi yn y gwaith ychydig fisoedd yn ôl ac roedd ofnau am ragor o golledion, ond nid cau’n gyfangwbl.