Fe fydd Caerdydd yn dod yn un o brif ganolfannau BT, meddai’r cwmni.

Daw’r newyddion wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod am gau 270 o swyddfeydd drwy wledydd Prydain.

Mae disgwyl i nifer y swyddfeydd gael eu cwtogi o 300 i 30 erbyn 2023, ond fydd neb yn colli eu swyddi.

Ymhlith y prif ganolfannau eraill yn y dyfodol fydd Belffast, Birmingham, Bryste, Caeredin, Ipswich, Llundain a Manceinion.

“Datgelu’r wyth lleoliad hyn yw’r cam cyntaf yn unig,” meddai Philip Jansen, prif weithredwr BT.

“Mae gyda ni dimau ymroddedig sy’n gweithio ar adnabod yr adeiladau gorau i symud i mewn iddyn nhw, a pha rai i’w hailddylunio ar gyfer y dyfodol.

“O ganlyniad i’r rhaglen hon, bydd pobol BT yn cael cartref mewn swyddfeydd ysbrydoledig sy’n well ar gyfer ein busnes ac i’n cwsmeriaid.”