Fe fydd ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut fydd y diwydiant amaeth yn cael ei ariannu ar ôl Brexit.

Yn ystod yr haf y llynedd, fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad o’r enw ‘Brexit a’n Tir’, a oedd yn cynnig disodli’r system bresennol – cynllun y Taliad Sylfaenol – gydag un newydd sy’n cynnwys grantiau busnes ac amgylcheddol.

Erbyn hyn, mae’r Gweinidog tros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi “nifer o newidiadau polisi” ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw.

Yn eu plith mae “cynllun ffermio cynaliadwy sengl newydd” a fydd, yn ôl y Llywodraeth, yn dod â’r ”cynlluniau cydnerthedd economaidd a nwyddau cyhoeddus… at ei gilydd.”

Bydd y newidiadau polisi yn cael eu hystyried mewn ymgynghoriad a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ar ddiwedd mis Gorffennaf.

Ymgynghoriad arall

“Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, rwy’n cynnig cynllun ffermio cynaliadwy sengl newydd, sy’n ein galluogi i archwilio cyfleoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar yr un pryd,” meddai Lesley Griffiths.

“Byddwn ni’n cynnig rhoi taliad blynyddol i ffermwyr am y canlyniadau amgylcheddol sy’n cael eu cyflawni ar eu fferm – gyda’r nod o wrthdroi dirywiad bioamrywiaethol, bodloni ein cyllidebau carbon a chyrraedd ein targedau aer glân.

“Gwnaeth yr ymatebion o’r ymgynghoriad ddangos ei bod yn bosibl cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus ochr yn ochr.  Mewn llawer o achosion, mae’r un weithred, wedi’i gwneud yn y ffordd gywir, yn gallu cyfrannu at y ddau ganlyniad. 

“Rydyn ni’n hapus i dalu am y canlyniadau amgylcheddol hyn. Yn y ffordd hon, rydyn ni’n gallu cefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi rhagor o fanylion ar gyfer yr ymgynghoriad cyn Sioe Frenhinol Cymru.”