Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r llanc, 18, a gafodd ei ladd yn ardal Cathays, Caerdydd, dros y penwythnos.

Cafodd Fahad Mohamed Nur, sy’n hanu o’r brifddinas, ei drywanu i farwolaeth ger gorsaf drenau Cathays toc cyn 12.30yb ddydd Sul (Mehefin 2).

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae dau ddyn lleol, 17 a 18, wedi cael eu rhyddhau yn ddigyhuddiad ar ôl iddyn nhw gael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw’n parhau i ymchwilio i’r llofruddiaeth, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

“Mae Cathays yn ardal brysur iawn ac rydyn ni’n gwybod bod nifer o bobol o gwmpas Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc a Heol Corbett ger tafarn y Woodville wedi clywed neu weld rhywbeth,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd, Mark O’Shea.