Mae angen i’r Ceidwadwyr hynny sydd ddim yn debygol o ennill y ras am arweinyddiaeth y blaid dynnu eu henwau yn ôl, meddai Aelod Seneddol o Gymru.

Daw anogaeth Glyn Davies, yr aelod tros Sir Drefaldwyn, wedi i 13 Aelod Seneddol Ceidwadol gadarnhau eu bod nhw eisiau olynu Theresa May yn arweinydd y Blaid Geidwadol.

Ymhlith yr ymgeiswyr mae aelodau a chyn-aelodau blaenllaw o’r Cabinet, gan gynnwys Boris Johnson, Michael Gove ac Andrea Leadsom.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gamu o’r neilltu fel arweinydd ei phlaid ddiwedd yr wythnos hon (dydd Gwener, Mehefin 7), a hynny yn dilyn ymweliad tridiau Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, â gwledydd Prydain.

“Angen brys am sefydlogrwydd”

O dan reolau’r Blaid Geidwadol, os yw Aelod Seneddol am ymgeisio am yr arweinyddiaeth, mae angen iddo dderbyn o leiaf dau enwebiad gan ei gyd-Aelodau.

Ond yn ôl Glyn Davies, fe ddylai’r ymgeiswyr hynny sydd â llai na 10 cefnogwr dynnu eu henwau yn ôl er mwyn sicrhau bod arweinydd newydd yn cael ei ddewis “cyn gynted â phosib”.

Ychwanega fod y “dryswch” presennol yn y byd gwleidyddol yn niweidiol i’r economi, y gwasanaethau cyhoeddus ac i enw da San Steffan.

“O ystyried yr angen brys am sefydlogrwydd yn ein harweinyddiaeth wleidyddol, mae’n rhaid inni roi buddiannau gwledydd Prydain o flaen prosesau’r Blaid Geidwadol,” meddai Glyn Davies.

“Ac mae angen inni ganolbwyntio ar ddadleuon y rhai mwyaf addawol sy’n ymgeiswyr o ddifrif, ac sydd â thipyn o gefnogaeth y tu cefn iddyn nhw.”

 

 

 

Yr Aelod Seneddol, Glyn Davies, yn galw ar rai Ceidwadwyr i dynnu eu henwau yn ôl o’r ras