Mae gorsaf drenau Cathays yng Nghaerdydd yn dal ynghau heddiw wrth i Heddlu’r De barhau i ymchwilio i lofruddiaeth dyn yno fore ddoe (dydd Sul, Mehefin 2).

Cafodd yr heddlu eu galw i lôn ger gorsaf drenau Cathays am 12.24yb, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Bu farw’r dyn yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn ddiweddarach, ond dydy e ddim wedi cael ei adnabod hyd yn hyn.

Mae dau ddyn 18 ac 19 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio.

Mae’r heddlu’n dweud nad oes trenau’n galw yng ngorsaf drenau Cathays ar hyn o bryd wrth i’r ymchwiliad barhau.