Mae mudiad annibyniaeth Undod yn dweud eu bod yn “gwrthwynebu’n gryf” y cynllun i adeiladu M4 newydd yn ardal Casnewydd.

Mae disgwyl i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, gyhoeddi yn y Senedd ddydd Mawrth (Mehefin 4) beth yw tynged y prosiect gwerth £1.4bn.

Ac mae Undod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r syniad o godi’r ffordd liniaru newydd, gan ddweud ei fod yn “gynllun dinistriol”.

Llythyr agored

Mae’r mudiad wedi cyhoeddi llythyr agored at Lywodraeth Cymru, ac yn cyflwyno’u hunain gan ddweud eu bod nhw “am adeiladu cymdeithas wleidyddol gynhwysol sydd yn hybu cymunedau ac economi moesegol, sydd yn chwarae rhan lawn mewn gwarchod amgylchedd naturiol a hinsawdd y Ddaear”.

Mae’r llythyr yn amlinellu sawl rheswm dros wrthwynebu’r cynllun, gan gynnwys:

  • Mae prosiect ffordd mor fawr yn anwybyddu tystiolaeth wyddonol am yr argyfwng hinsawdd a galwadau gan ymgyrchwyr, yn enwedig llawer o bobl ifanc. Mae’n mynd yn groes i ddatganiad diweddar Llywodraeth Cymru ei hun am yr argyfwng hinsawdd.
  • Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, bydd rhaid i ni edrych tu hwnt i gynnydd mewn capasiti ffyrdd a thraffyrdd ar gyfer cerbydau tanwydd ffosil. Yn hytrach mae’n rhaid newid ein ffordd o fyw i leihau allyriadau carbon yn sylweddol, mabwysiadu dulliau teithio llesol, a gwella iechyd cyhoeddus.
  • Yn fyd-eang mae’r argyfwng hinsawdd eisoes yn niweidiol i gymunedau o bobl a chenhedloedd llai breintiedig.
  • Mae bywyd gwyllt ledled y byd yn dioddef o ganlyniad i gynhesu byd-eang. Er lles cenhedloedd nawr a’r dyfodol, mae hefyd angen gwarchod ein gwlypdiroedd gwerthfawr, Gwastadeddau Gwent, rhag dinistr.
  • Rhaid i fuddsoddiadau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd fod er budd Cymru gyfan yn hytrach nag ar gyfer un cornel o’r wlad.
  • Mae benthyg swm mor fawr gan y Trysorlys yn Llundain ar gyfer prosiect mor ddrudfawr yn creu sefyllfa annerbyniol i bobl Cymru ac economi Cymru. Bydd Cymru fel gwlad hyd yn oed pellach o fod yn annibynnol yn economaidd, ac yn fwy gwasaidd i’r wladwriaeth Brydeinig.

“Mae peryg bod Llywodraeth Cymru ar fin ildio i ragrith difrifol trwy ddatgan adeiladu ‘ffordd liniaru’ M4 newydd, dim ond wythnosau ar ôl datgan argyfwng hinsawdd,” meddai’r llythyr.

Mae’n tynnu sylw at y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn pwysleisio’r difrod i fywyd gwyllt lleol, cynnydd mewn allyriadau carbon, a datganiad diweddar Llywodraeth Cymru fod argyfwng hinsawdd ar y gorwel.

Fel mudiad annibyniaeth, maen nhw’n dweud y byddai benthyg arian gan Brydain yn creu “sefyllfa annerbyniol” a fyddai’n gwneud Cymru’n “fwy darostyngedig i’r wladwriaeth Brydeinig”.