Mae’r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi ymateb yn chwyrn i sylw gan yr Ysgrifennydd Cartref Savid Javid na fyddai’n “caniatáu” pleidlais ar arall ar annibyniaeth i’r Alban.

Er yn dadlau ei fod ef yn bersonol o blaid datganoli cryfach yn hytrach nag annibyniaeth, dywed nad oes gan Savid Javid hawl i rwystro refferendwm.

Mae Savid Javid yn un o’r 12 o ASau Torïaidd sy’n ceisio cael eu hethol yn Brif Weinidog i olynu Theresa May.

“Oes ganddo syniad pa mor drahaus mae’n swnio?” meddai mewn trydariad. “Mae gan bobl yr Alban, a phobl Cymru o ran hynny, bob hawl i gynnal refferendwm ar annibyniaeth os ydyn nhw’n cefnogi plaid sy’n galw am hynny.

“Mae gan rywun bob hawl i ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth, ond nid i rwystro pleidlais.”

Mae ei sylwadau wedi cael eu croesawu’n frwd gan yr SNP.

“Dw i’n croesawu cefnogaeth Carwyn Jones i hawl ddemocrataidd yr Alban i gynnal refferendwm ar annibyniaeth – ac yn pwyso ar weddill y Blaid Lafur i ymuno â ni i sefyll yn erbyn y Torïaid,” meddai Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

“Nid lle’r Blaid Dorïaidd yw hi i orfodi amodau ein dyfodol a datgan yn drahaus na fyddan nhw’n ‘caniatáu’ i bobl yr Alban gynnal refferendwm.”

Cafodd Bil Refferendwm (Yr Alban) ei gyflwyno yn senedd yr Alban yr wythnos yma.