Mae enillydd Coron yr Urdd eleni yn teimlo yn “[d]diolchgar iawn a balch iawn” yn dilyn ei fuddugoliaeth… Brennig Davies o Fro Morgannwg yn ennill coron yr Urdd

“Dw i’n teimlo rhyddhad bod y seremoni wedi gorffen a bod fy nerfau wedi gwella erbyn hyn,” meddai wrth golwg360, a hynny funudau yn unig ar ôl camu oddi ar y prif lwyfan yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.

 ‘Cymodi’ oedd thema’r Goron eleni, ac yn ei waith mae Brennig Davies yn ceisio llunio darlun trwy’n tywys ni trwy berthynas dynes gyda llwynog sydd wedi’i anafu.

“Roeddwn i am sgwennu am fenyw yn gorfod cymodi ac elfen eithaf trist o’i hanes personol hi, a wnes i wneud hynny trwy [iddi] fabwysiadu llwynog mae’n dod ar draws,” meddai’r llenor buddugol.

“Mae’r symbolaeth o’r llwynog a beth mae’n cynrychioli yn eithaf amwys, a hoffwn i gadw hi fel hynny,” ychwanegodd.

Mae Brennig Davies yn pwysleisio ei fod yn hoffi amwysedd yn ei storiâu, yn hoffi’r elfen o ansicrwydd a’r ffaith bod rhaid i’r darllenydd ddehongli’r hyn sydd dan sylw.

“Mae hi lan i’r darllenydd i weld beth maen nhw’n meddwl am ffigwr y cadno,” meddai.

“Do’ ni ddim moyn egluro pob dim a gwneud pob dim yn amlwg, ro’n i moyn ymdeimlad bod rhywbeth o dan yr arwyneb, bod y darllenydd yn gallu synhwyro neu ddehongli yn eu ffordd nhw eu hunain.”

“Profiad Gwych”

 Mae Brennig Davies yn mynd yn syth yn ôl i Rydychen i “adolygu’n ffyrnig” at ei arholiadau Saesneg rŵan.

“Efallai rhywbryd yn y dyfodol hoffwn gystadlu eto yn yr eisteddfod oherwydd mae’r profiad… wedi bod yn un mor wych.”