Mae’r cais i gynnal y gwaith o chwilio am nwy ag olew ym Mae Ceredigion wedi ei ohirio gan Lywodraeth Prydain.

Bu cwmni Eni UK yn ceisio cael caniatâd i gynnal archwiliad o’r Bae rhwng Mehefin 1 a Medi 30.

Byddai’r gwaith wedi para 40 diwrnod, ond fe fydd oedi nawr cyn penderfynu ar ddilysrwydd y cais.

Roedd preswylwyr, cadwraethwyr a gwleidyddion lleol wedi lleisio eu pryderon ynghylch effaith y gwaith ar famaliaid ifanc yn yr ardal.

Pryder am fwriad i chwilio am olew a nwy ym Mae Ceredigion

 “Ymrwymiad i leihau allyriadau”

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth gwledydd Prydain bod gwaith ym Mae Ceredigion bellach wedi’i atal,” meddai Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion.

Ar ôl i’r sïon ddechrau ynglŷn â’r cynllun ym mis Mai 2019, fe ysgrifennodd Ben Lake at yr Ysgrifennydd Busnes, a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark, yn lleisio’i bryder.

Fe alwodd am ddatganiad brys gan Lywodraeth gwledydd Prydain yn San Steffan yn ystod sesiwn Cwestiynau Busnes hefyd.

Yn dilyn y penderfyniad i atal y cais, dywedodd Ben Lake ei fod “yn gobeithio y gellir rhoi sylw o’r newydd i’r potensial sydd gan arfordir Cymru i gefnogi ynni gwyrdd, y gallai ei ddatblygu cynnal cyflogaeth yn lleol am genedlaethau yn ogystal ag anrhydeddu ein rhwymedigaethau i’r amgylchedd.”