Mae un o gynghorwyr Plaid Cymru yn y gogledd yn galw ar Lywodraeth Cymru i “ail-edrych, ar frys ar drefn cyllido ysgolion ar draws Cymru”.

Daw’r alwad gan y Cynghorydd Aaron Wynne, sy’n cynrychioli Llanrwst ar Gyngor Conwy – sir ble mae £8.1 miliwn wedi ei docio oddi ar y gyllideb addysg yn y pedair blynedd ddiwethaf.

Yn ôl yr Undeb Genedlaethol dros Addysg mae cyllideb bron i bob ysgol yng Nghonwy wedi ei thorri ers 2015.

Fe gafodd £4.9m ei dorri  o gyllidebau ysgolion cynradd a £2.5m oddi ar ysgolion uwchradd.

“Rhaid i hyn newid”

Oherwydd y toriadau hyn mae penaethiaid ysgolion yn sir Conwy yn rhybuddio bydd rhaid diswyddo staff, yn ôl y Cynghorydd Aaron Wynne.

Dywed hefyd y bydd cyflwr adeiladau ysgolion yn dirywio a bydd y niferoedd mewn dosbarthiadau yn cynyddu.

“Rydym yn gweld y broblem hon mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru,” meddai Aaron Wynne.

“Bydd angen gweithredu ar lefel genedlaethol, gan edrych ar y sefyllfa yn wrthrychol er mwyn datrys y broblem.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru ddeall fod eu toriadau cyson i gyllidebau Llywodraeth Leol wedi arwain at sefyllfa lle nad oes gan ein hysgolion gyllid digonol. Mae’n rhaid i hyn newid.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.