Cafodd chwaraewr pêl-droed Cymru, Rabbi Matondo, ei hebrwng oddi ar awyren ar Fai 28 yn dilyn cwyn ei fod yn “ymddwyn yn amhriodol”.

Roedd yr asgellwr 18 oed yn teithio i Fryste o Faro, Portiwgal ar ôl bod yno yn ymarfer gyda gweddill carfan Cymru.

Mae Rabbi Matondo yng ngharfan y rheolwr Ryan Giggs ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020 yn erbyn Croatia a Hwngari.

Fe ymunodd y chwaraewr ifanc â chlwb Schalke yn yr Almaen o Machester City ym mis Ionawr.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o’r digwyddiad.

“Cafodd y mater ei ddatrys yn gyflym ac ni fydd y Gymdeithas yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd,” meddai llefarydd.