Mae 27% o’r Cymry yn dewis aros adref a mynd i ŵyl tros yr haf, yn hytrach na mynd ar wyliau dramor, yn ôl ymchwil gan fanc Barclays.
Mae 29% yn dewis aros adref oherwydd bod gwyliau dramor yn mynd yn ddrytach.
Ac mae 21% yn aros adref oherwydd bod mwy o dywydd poeth ar gael yma, ac mae 13% yn osgoi teithio yn bell oherwydd ansicrwydd Brexit.
Dengys ymchwil banc Barclays bod mwy yn dewis mynd i ŵyliau ym Mhrydain yn lle mynd dramor ar wyliau.
Mae 32% o’r rhai sy’n aros adref yn mynd i wyliau er mwyn cyfarfod pobol newydd, a’r un ganran yn mynd i flasu bwydydd newydd, a 23% yn mynd er mwyn “agor eu meddyliau”.
Ar gyfartaledd, mae pobol yn gwario tua £550 yr un ar baratoi ar gyfer gŵyl gyda’r gwariant uchaf ar deithio, dillad a phebyll.