Bydd cwmni technoleg werdd yn derbyn £12.6m er mwyn datblygu prosiect ynni gwyrdd ar Ynys Môn.

Mae gan Minesto bencadlys ar yr ynys, a gyda’r cyllid yma mi fyddan nhw’n datblygu barcutiaid tanddwr sy’n cynhyrchu ynni o lif y llanw a’r môr.

Llywodraeth Cymru sydd yn buddsoddi’r swm, ac mi ddaw’r arian o gyllid yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd dyfais Minesto yn cael ei gosod yn safle Dyfnder Caergybi – 6km oddi ar arfordir Ynys Môn – ac mae disgwyl iddyn nhw dreulio’r blynyddoedd nesaf yn ei ddatblygu.

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ehangach y cwmni i ddatblygu safle yn Nyfnder Caergybi a all gynhyrchu digon o ynni ar gyfer tua 60,000 o gartrefi.

“I’r lefel nesaf”

“Bydd y buddsoddiad heddiw yn codi gwaith Minesto yn y gogledd i’r lefel nesaf,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

“Mae hefyd yn newyddion da ar gyfer swyddi a’r gadwyn gyflenwi leol, ac yn enghraifft wych o’r ffordd y mae Cymru’n elwa ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.”