Mae grŵp iechyd meddwl yn gobeithio rhoi help llaw i athrawon trwy lansio ‘pecyn cymorth’ ar Faes Eisteddfod yr Urdd.

Mae’r pecyn yn cynnwys cynlluniau gwers a thaflenni gwybodaeth yn y Gymraeg; ac yn ôl Sophie Ann Hughes, o meddwl.org, fe fydd o fudd i athrawon y genedl.

“Mae yna lot o adnoddau ar gael yn Saesneg,” meddai wrth golwg360. “Ac mae yna lot o bwysau ar
athrawon, erbyn hyn. Mae disgwyl iddyn nhw allu cefnogi iechyd meddwl.

“Ond yn aml iawn dydyn nhw ddim wedi cael yr hyfforddiant, na’r arweiniad, i wneud hynna.

“Felly roeddem ni’n awyddus iawn ddarparu rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn eu helpu
nhw yn hynny o beth.”

Mae Sophie Ann Hughes yn credu bod diffyg adnoddau iechyd meddwl Cymraeg, ac mae’n esbonio
bod ei gwefan wedi’i sefydlu er mwyn “llenwi’r bwlch yna”.

Y pecyn

Fersiwn Cymraeg yw’r ‘pecyn cymorth’ o becyn Saesneg a gafodd ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud.

Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru, ac mae ei ddeunydd wedi’i deilwra ar gyfer plant rhwng 11 a 14 oed.

Cafodd ei lansio ar Faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ar Fro 2019, ar dydd Iau (Mai 30). Sophie Ann Hughes oedd arweinydd y prosiect.