Os yw mynediad i ‘faes’ agored Eisteddfod yr Urdd eleni am ddim i bawb, mae cryn drafod y ffaith bod yn rhaid i rieni a chefnogwyr dros 18 oed sydd am weld plant yn cystadlu mewn rhagbrawf, dalu £15.

Wrth gyrraedd Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, mae’n dod yn glir fod yn rhaid talu i bob ardal lle mae cystadlu yn digwydd. Mae hynny’n cynnwys rhieni, neiniau a theidiau, a ffrindiau sydd am weld perfformiad sy’n para dim ond tri munud.

Ymhlith y rhai sydd wedi ennyn tipyn o drafodaeth ar Twitter ac ar Facebook, yw’r actores Sera Cracroft (Eileen ar Pobol y Cwm) sy’n dweud ei bod hi’n teimlo i’r byw dros rieni plant sydd ddim yn cael llwyfan, ac mai’r unig gyfle i’w gweld ydi mewn rhagbrawf yn y Bae.

Dyma’r telerau sy’n cael eu rhestru yn y Ganolfan:

–  £15 i oedolion sydd am fynd i unrhyw fan lle mae cystadlu’n digwydd;
– £10 i fyfyrwyr i gael mynediad i fannau cystadlu;
– Mynediad am ddim i blant o dan 18;
– Does dim tâl mynediad i gystadleuwyr;

– Fe fydd disgownt o 50% ar y prisiau mynediad ddydd Sadwrn (Mehefin 1);
– Mae un athro/awes yn cael mynediad am bob deg plentyn gyda nhw.

“Angen sicrhau ffynhonnell incwm”

“Mae mynediad i’r maes am ddim ac mewn blwyddyn arferol bydda angen talu am docyn mynediad i ddod i mewn i’r maes ac i fynychu rhagbrofion,” meddai Morys Gruffydd, un o drefnwyr Eisteddfod yr Urdd

“Fel arfer hefyd bydde angen talu am blant a chystadleuwyr felly eleni mae yna arbedion i deuluoedd lle does dim angen talu am blant a chystadleuwyr

“Fe fyddai’n braf peidio gorfod codi cost ond yn amlwg mae angen sicrhau ffynhonnell i’n cwm er mwyn medru cynnal yr Eisteddfod.”

Mae Morys Gruffydd yn dweud bod yr Eisteddfod “wedi’i gwneud hi’n glir” wrth gyfathrebu bod y ‘Maes am ddim’ yn cynnwys popeth heblaw am y cystadlu.

“Bydde hi ddim yn bosib i ni gynnal gŵyl ar y raddfa hon heb fod ’na incwm o fandiau braich oedolion eleni.”

“Does yna ddim posib dweud lle fydd y £15 ‘na yn mynd yn benodol ond mae’n mynd at amryw o gostau cyffredinol i gynnal Eisteddfod,” meddai Morys Gruffydd wedyn. 

 

Eisteddfod Yr Urdd godidog ond Bechod gweld rhieni methu fforddio’r £15 yr un I weld eu Plant yn canu mewn rhagbrawf?

Posted by Sera Cracroft on Tuesday, 28 May 2019