Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i tua 500 o bysgod marw gael eu canfod mewn nant ger Cwm Rhymni.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, fe wnaethon nhw dderbyn adroddiad am ddigwyddiad o lygredd mewn rhan o Nant Cylla ger Penpedairheol, Caerffili, yn ystod penwythnos gŵyl y banc.

Roedd swyddogion yn credu mai dim ond 100 o bysgod oedd wedi marw yn wreiddiol, ond fe ddaeth i’r amlwg wedyn bod y nifer yn llawer uwch, a hynny ar hyd ychydig llai na chilometr o’r nant, medden nhw.

Er nad oedd unrhyw arwyddion gweladwy o lygredd, mae swyddogion bellach yn credu eu bod nhw wedi dod o hyd i’r ffynhonnell ac achos y marwolaethau.

Bydd samplau o ddŵr a physgod yn cael eu dadansoddi mewn labordy cyn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd unrhyw gamau pellach.

‘Ystyried y camau nesaf’

“Mae gwarchod afonydd arbennig Cymru yn anhygoel o bwysig i ni,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Cyn gynted ag y clywsom am y digwyddiad hwn, roedd ein swyddogion ar y safle er mwyn cynnal ymchwiliad.

“Yn anffodus, mae’r niferoedd terfynol o bysgod sydd wedi marw o ganlyniad i’r llygredd hwn yn llawer uwch nag oeddem ni’n tybio i ddechrau ac mae’r digwyddiad wedi cael effaith ddinistriol ar stociau pysgod lleol.

“Rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i’r ffynhonnell a byddwn yn ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf, gan gynnwys camau gorfodi priodol yn erbyn y sawl sy’n gyfrifol.”