Eidales o’r Wyddgrug sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddford yr Urdd 2019.

Francesca Elena Sciarrillo yw’r unig berson o’i theulu sy’n siarad Cymraeg ac Eidaleg yw ei theulu i gyd.

Mae hi’n brentis graddedig mewn Marchnata ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, ac mae’n “falch iawn o fod yn Eidalwraig a Chymraeg – dwy o wledydd prydferth”.

“Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd mewn sawl ffordd” meddai Francesca Elena Sciarrillo, wnaeth ddechrau dysgu’r iaith yn 16 oed.

“Mae wedi agor drysau i mi i lyfrau newydd, cerddoriaeth newydd, gwleidyddiaeth newydd ac yn bwysicach, pobol newydd, pobol sy’n golygu’r byd i mi!”

Un uchelgais sydd ganddi yw ysgrifennu llyfr ynglŷn â thaith ei theulu o’r Eidal trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae ei hymrwymiad i ddysgu a hyrwyddo’r iaith mewn ardal ble mae’r Gymraeg yn wan yn ddiffuant,” meddai’r beirniad, Martin Williams.

“Dewrder”

Bu’r cystadleuwyr yn treulio’r diwrnod yn gwneud heriau oedd yn rhoi iaith, hyder a gwybodaeth y tri chystadleuydd terfynol ar brawf.

Yn rhan on hyn oedd gwneud cyfweliad byw gyda BBC Radio Cymru a siarad cyhoeddus mewn cynhadledd i’r wasg brysur o flaen newyddiadurwyr a chamerâu teledu.

Dywed y beirniad Martin Williams ei fod yn “edmygu dewrder” yr holl ddysgwyr eleni. Molly Evans, sydd yn ei i blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caer, yn astudio gradd mewn Ieithoedd Modern; a Jack Wilson yn wreiddiol o Warrington, sy’n astudio Cemeg ym Mhrifysgol Bangor, oedd y ddau gystadleuydd arall.