Gruffudd Eifion Owen o Bwllheli yw Bardd Plant Cymru 2019-21.

Fe gamodd ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro heddiw (dydd Mawrth, Mai 28) i olynu Casia William.

Y bardd 33 oed, sy’n byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd bellach, yw’r 16eg bardd i ymgymryd â’r swydd, ac fe fydd yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol ym mis Medi.

Fe enillodd Gruffudd Owen Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2009 a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Mae’n “edrych ymlaen yn ofnadwy i gychwyn ar y swydd,” meddai wrth golwg360.

“Cyflwyno barddoniaeth i bobol ifanc”

Mae Bardd Plant Cymru yn cyflwyno llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol i blant Cymru ac fe fydd Gruffudd Owen yn cael y cyfle gamu ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.

“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig ofnadwy cyflwyno barddoniaeth i bobol ifanc mor gynnar â phosib,” meddai Gruffudd Owen.

“I ddangos bod barddoniaeth yn rhywbeth hygyrch, diddorol, a perthnasol i bobol ifanc a bo’ nhw’n dysgu barddoniaeth, mwynhau darllen barddoniaeth ac yn bwysicach i greu barddoniaeth.

“Mi fedrwch chi sgwennu cerdd dda mewn pum munud. Mi fedrwch chi greu rwbath allwch chi fod yn falch ohono fo mewn cyfnod byr iawn iawn o amser.”

“Ysbrydoli i ddarllen a chreu”

Yn ysgolion y Cymerau a Glan y Môr, a Choleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli wnaeth blas Gruffudd Owen ar farddoniaeth gynnau cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg.  

Tydi o ddim o’r farn bod barddoniaeth “yn rhywbeth aruchel, a rhywbeth anodd iawn iawn i’w greu a’i ddeall.

“Yn y diwedd, diben unrhyw gerdd ydi bod yn onest, a chael y darllenydd i deimlo rwbath.

“Dw i wirioneddol yn edrych ymlaen at ddodi i nabod Cymru yn well a dod i nabod plant Cymru yn well wrth grwydro ar hyd a lled y wlad ac ysbrydoli nhw i ddarllen ag i greu barddoniaeth.”

“Tanio dychymyg plant Cymru”

“Dyma benodiad cyffrous iawn,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru am y cyhoeddiad.

“Mae Gruff yn enwog am ei hiwmor ac am ei gerddi cyfoes, a bydd ei weithdai’n siŵr o danio dychymyg plant Cymru.

“Rydym ni a holl bartneriaid cynllun Bardd Plant Cymru yn edrych ymlaen at weld sut y bydd Gruff yn meddiannu’r rôl dros y ddwy flynedd nesaf, ac at ddilyn ei daith a’i ddatblygiad yntau.”