Adam Williams, 18, yw enillydd Gwobr Goffa Bobi Jones – medal newydd sbon i ddysgwyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro eleni.

“Dw i’n teimlo’n falch iawn o fod yma ym Mae Caerdydd, a dw i mor hapus fy mod i wedi ennill y wobr,” meddai wrth golwg360.

Mae’r fedal yn cael ei ddyfarnu i bobol ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, yn y gwaith neu wrth gymdeithasu.

Un o’r prif heriau oedd yn wynebu’r dysgwr brwd oedd y diffyg siaradwyr Cymraeg yn ei ardal yn Sir Fynwy.

“Does dim lot o bobol yn ble dwi’n byw yn siarad Cymraeg – dwi’n byw yn Sir Fynwy, a does dim lot o siaradwyr Cymraeg.

“Dw i’n meddwl mai tua 20% sy’n siarad Cymraeg felly roedd o’n anodd jest i gael y cyfle i ddysgu’r iaith.”

“Defnyddio’r iaith bob dydd”

Myfyriwr yn Ysgol Cil-y-coed yw Adam Williams a fydd yn mentro i Brifysgol Abertawe i astudio’r Gymraeg ac Almaeneg ar ôl yr haf.

“Dw i’n trio defnyddio’r iaith bob dydd, pan mae pobol yn dod ac yn siarad Cymraeg, fyswn i’n dweud ‘Helo, su’mai?’”

Mae gweithio mewn bwyty wedi bod yn rhan ganolog o sut mae Adam Williams wedi gwella
ei sgiliau ieithyddol.

“Mae rhai o’r bobol dwi’n gweithio gydag yn siarad yr iaith, felly dw i’n trio siarad gyda nhw.”

Mae Adam Williams yn edrych ymlaen at “fwynhau’r Eisteddfod a’r hanner tymor” am weddill yr wythnos wrth iddo gymryd seibiant o baratoadau ei arholiadau.