Siriol Jenkins o Sir Benfro yw enillydd Medal Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.

Mae’r ferch, 20, o Wiseman’s Bridge, yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ond doedd hi ddim yn bresennol yn y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm heddiw (dydd Llun, Mai 27) gan ei bod hi’n sefyll un o’i harholiadau terfynol.

Ei chyn-athro a’r arweinydd côr, Seimon Morris, oedd yn casglu’r wobr ar ei rhan. Roedd Siriol Jenkins hefyd yn ail yn y gystadleuaeth.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan, dywedodd y beirniad, Euros Rhys, fod nifer yr ymgeiswyr yn uchel eleni, ond bod cyfansoddiad yr enillydd, o dan y ffugenw Tirlun, yn “gyfanwaith trawiadol”.

Ychwanegodd ei fod yn “ensemble offerynnol disgrifiadol sy’n llawn delweddau a dychymyg cerddorol.”

Yn drydedd yn y gystadleuaeth oedd Elan Richards o Landdarog, Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cystadlu fel aelod unigol o ranbarth tu allan i Gymru.