Un o uchafbwyntiau’r Gwyddonle yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 yw lansiad llong ymchwil newydd sbon Prifysgol Abertawe.

Mae’r RV Mary Anning wedi costio £1.3m i’w chreu a hi yw’r cyntaf o’i fath yng ngwledydd Prydain.

Trwy gydol yr wythnos mae cyfle i fynychwyr yr Urdd fynd am daith o amgylch y llong bob awr rhwng 11yb a 3yp.

 “Gwaelod y môr llawn blastig”

 “Un o’r pethau gwych am ddod i’r Eisteddfod yw bod ni’n gallu defnyddio’r cyfle hyn o ddangos y Mary Anning – ein llong ymchwil newydd sbon,” meddai’r Dr Gethin Thomas o Ysgol Bioleg y Môr Prifysgol Abertawe wrth Golwg360.

“Pryd ni’n defnyddio’r offer sydd gennym ni ar y llong ac yn gweld y plastig yn cael ei godi ni’n gweld faint o blastig sy’n cuddio yn y môr.

“Mae gwaelod y môr yn llawn blastig ac mae’n bwysig gwybod amdanynt oherwydd tydyn nhw ddim yn torri lawr a ddim yn pydru.”

Pwy yw Mary Anning?

 “Mae’r llong wedi ei henwi ar ôl y paleontolegwyr Mary Anning sydd ddim wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith ym myd gwyddoniaeth,” yn ôl Dr Gethin Thomas.

“Base hi wedi cael ei hystyried fel biolegydd y môr os fydde hi o gwmpas nawr.

“Ond oherwydd mai menyw dosbarth gweithiol oedd hi doedd hi ddim yn cael y gydnabyddiaeth oedd hi’n haeddu.”

“Roedd hi wedi cael ei hanghofio, a doedd hi ddim wedi cael y sylw y dylai hi wedi cael pan yn fyw.

“Beth ni’n trio neud yw newid hwnna – mae’n 200 mlynedd ers iddi hi gael ei geni ond mae’n bwysig pwysleisio’r rôl mae menywod wedi chwarae yng ngwyddoniaeth.

“Dynion sy’n cymryd y clod i gyd – ond mae nifer fawr o’i wyddonwreigiau yn chwarae rôl bwysig iawn – ac mae’n bwysig dangos i ferched bod cyfle i gael gyrfa mewn maes gwyddoniaeth.”

“Cyfle gwych” i fyfyrwyr

Fe fydd myfyrwyr israddedig ac ymchwil yr ysgol Bioleg Mor Prifysgol Abertawe yn cael y cyfle i ddefnyddio’r llong ar gyfer ymchwil.

“Dwi’n teimlo’n gryf am gael myfyrwyr mas i wneud gwaith ymarferol,” meddai Dr Gethin Thomas.

“Mae’n eu paratoi at yrfa mewn Bioleg y Môr, ac yn gyfle gwych iddynt gael blas ar sut mae ymchwil mor go iawn yn cael ei gyflawni.”