Seren Wyn Jenkins, sy’n byw ger Aberystwyth, yw enillydd Medal Gelf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.

Mae’r ddisgybl Lefel A o Ysgol Gyfun Penweddig wedi bod yn cystadlu yng nghystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg yr Urdd ers oedd hi’n ferch fach yn Ysgol Penrhyn-coch.

Dyma’r tro cyntaf, o’r diwedd, i’r artist brwdfrydig – sydd wedi cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn ers 2010 – i ennill un o’r prif wobrau.

Ysbrydoliaeth

 Ymhlith rhai o’r artistiaid sydd wedi ysbrydoli gwaith Seren Wyn Jenkins mae’r artist gwrthrychau modern, Bethan Gray a gwaith tecstilau Josie Russell ac Edrica Huws.

“Wnes i ddechrau creu’r bwrdd yma gyda thema Cymru, a chreu coesau gyda ‘Hen Wlad fy Nhadau arno fe,” dywedodd Seren Wyn Jenkins wrth golwg360.

“Mi wnes i ddefnyddio defnydd o Gymru – copr o Sir Fôn, pren o Aberystwyth a defnydd o gegin Mam-gu.

“Roeddwn yn teimlo fod bwrlwm ynglŷn â Chymreictod ar hyn o bryd a chynnyrch Cymreig yn dod yn fwyfwy amlwg o gwmpas y lle.”

Ar ôl gorffen yn y chweched ddosbarth mae Seren Wyn Jenkins am barhau gyda’i gwaith celf er mwyn datblygu ei thechnegau celf.

 “Safon yn wych”

 Yn ôl Gwenllian Beynon, un o feirniaid y Fedal mae’r “safon yn wych eleni.”

“Braf oedd gweld cymaint o bobol ifanc yr oed hwn yn cystadlu. Er ei bod yn anodd gwneud penderfyniad, roedd gwaith Seren yn broffesiynol iawn er ei bod yn ifanc.

“Roedd hi’n amlwg wedi gwneud tipyn o ymchwil i’r farchnad ac roedd ei chyflwyniad yn hynod ddiddorol.

“Mae Seren yn amlwg wir yn meddwl am gynaliadwyedd a defnyddio deunydd lleol yn ei gwaith.”

Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Ffion Pritchard sy’n 24 oed ac yn dod o Fangor yw enillydd Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro. Mae hi’n derbyn £2000 am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18-25 oed.