Mae dau o bobol wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe.
Tarodd beiciwr modur i mewn i gerddwr ger Wind Street yng nghanol y ddinas am oddeutu 10.30 neithiwr (nos Sadwrn, Mai 25).
Roedd y beic modur Suzuki yn teithio allan o’r ddinas i gyfeiriad y dwyrain pan darodd y dyn oedd yn croesi’r ffordd.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion a deunydd fideo, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.