Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyhuddo o fod yn “wrth-Gymraeg” yn sgil eu hymateb i arwydd ‘Cofiwch Dryweryn’ ar ochr siop losin yn y dref.

Roedd Freya Bletsloe, tenant yn siop losin Ella Riley yn y dref, wedi cael criw ynghyd i baentio’r arwydd ar ochr yr adeilad yn dilyn difrodi’r wal wreiddiol yn Llanrhystud.

Roedd y weithred yn rhan o ymgyrch genedlaethol ledled Cymru.

Ond mewn llythyr at landlord oedrannus yr adeilad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywed y cyngor eu bod yn ystyried yr arwydd yn “hysbyseb”.

Maen nhw wedi bygwth rhoi dirwy i’r dyn a gollodd ei wraig yn ddiweddar ac sydd mewn iechyd gwael ar hyn o bryd.

Fideo

Mewn fideo sydd wedi’i chyhoeddi ar YouTube, mae Freya Bletsloe a’r Aelod Cynulliad Neil McEvoy yn trafod y sefyllfa.

Wrth drafod yr arwydd, dywed Freya Bletsloe fod codi’r arwyddion ym mhob rhan o Gymru’n “foment Spartacus” o amgylch y wlad.

Caiff yr arwydd yn y dref ei ddisgrifio gan Neil McEvoy fel “gwaith celf diwylliannol”.

Ond mae’r cyngor sir yn dweud mewn llythyr ei bod yn “drosedd i arddangos hysbyseb”, sy’n cael ei ddisgrifio fel “gwahaniaethu yn erbyn diwylliant a threftadaeth Cymru” gan Neil McEvoy.

Mae Freya Bletsloe yn egluro nad oedd hi wedi cael lwc wrth geisio trafod y sefyllfa â’r cyngor, ac mae hi’n rhwygo’r llythyr ac yn ei daflu i’r bin ar ddiwedd y fideo.

Galwad ffôn

Yn y fideo, mae Neil McEvoy yn ffonio Huw David, arweinydd y cyngor sir, er mwyn cwyno am y sefyllfa.

Mae’n gadael neges ar beiriant ateb ei swyddfa, yn dweud y bydd yn annog pobol i gysylltu â’r cyngor i gwyno.

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “annerbyniol”.

Mewn ple uniongyrchol, mae’n annog Huw David i “gadw’r adran gynllunio dan reolaeth a’u stopio nhw rhag bod yn wrth-Gymraeg”.